Mae'r cwrs hwn yn archwilio'r angen i alluogi disgyblion i arwain yn ein hysgolion a'n cymunedau, a beth yw manteision hyn. Drwy'r cwrs hwn, bydd athrawon yn datblygu eu dealltwriaeth ynghylch pam fod arweinyddiaeth gan ddisgyblion yn bwysig - yn lleol ac yn fyd-eang. Byddant hefyd yn datblygu dealltwriaeth o'r rôl maent yn ei chwarae wrth rymuso a chefnogi eu disgyblion.
Lefel
Lefel 3 dwys.
Thema
- Beth yw arweinyddiaeth gan ddisgyblion a pham ei fod yn bwysig
- Ymlediad arloesedd a'i berthnasedd i annog disgyblion i arwain a chymorth gan gydweithwyr
- Dysgu am, dysgu ar gyfer, a chreu amgylcheddau ar gyfer, arweinyddiaeth gan ddisgyblion
- Datblygu cyfleoedd ar gyfer arweinyddiaeth gan ddisgyblion, gan gynnwys cynghorau ysgol.
Ar gyfer pwy?
Athrawon cynradd ac uwchradd yn Lloegr.
Sut bydda i'n elwa?
Bydd y cwrs hwn yn adeiladu dealltwriaeth a hyder i alluogi twf mewn arweinyddiaeth gan ddisgyblion yn yr ystafell ddosbarth a'r ysgol. Byddwch yn gadael y cwrs gydag ystod o dechnegau a dulliau y gallwch eu defnyddio a'u gweithredu yn eich ystafell ddosbarth, ac felly bydd o fantais i'ch arfer fel athro a hwylusydd dysgu.
Ymrwymiad amser
Dyma gwrs tridiau sydd hefyd yn cynnwys ymrwymiad i wneud rhywfaint o baratoi a rhai gweithgareddau dilynol. Rhennir y tri diwrnod dros un tymor, a chyflawnir y ddau gyntaf gyda'i gilydd ar y dechrau fel arfer.
Pris
Yn rhad ac am ddim.
Darparu
Darparwr: Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yng Nghymru a Pearson yn Lloegr. Cefnogaeth wyneb yn wyneb ac o bell ar ôl y dyddiau hyfforddi.
Sut i archebu
Er mwyn canfod lle a phryd cynhelir y cyrsiau, ac er mwyn archebu, cysylltwch â'r Ganolfan Materion Rhyngwladol yng Nghymru a Pearson yn Lloegr.
Fel arall, gallwch gynnal cwrs yn eich ysgol eich hun ar ddyddiad sy'n addas i chi, drwy archebu'n uniongyrchol gyda'r British Council.
Gellir cyflwyno'r cwrs hwn yn Saesneg hefyd. I weld ein holl gyrsiau a gyflwynir yn Saesneg, ewch i'n hadran Datblygu eich sgiliau.