Bydd y rhaglen hon yn archwilio sut gellir datblygu gwerthoedd, dealltwriaeth a sgiliau dinasyddiaeth yn yr ysgol. Mae'r cwrs yn cydnabod bod angen i ddysgu ac addysgu ymwneud â dinasyddiaeth, ar gyfer dinasyddiaeth – sy'n gofyn am ddulliau ymarferol o ddysgu trwy wneud – a hefyd drwy ddinasyddiaeth mewn awyrgylch sy'n adlewyrchu pwysigrwydd delfrydau ac arferion dinasyddiaeth.
Lefel
Lefel 3 dwys.
Thema
- Creu gofod diogel ar gyfer dysgu am ddinasyddiaeth, ac yna archwilio'r angen am ddinasyddiaeth leol a byd-eang, a'i natur
- Archwilio gwerthoedd a chysyniadau allweddol sy'n gysylltiedig â dinasyddiaeth a chynaliadwyedd pobl a'r amgylchedd.
- Sut mae datblygu sgiliau gweithredu a chyfranogi mewn perthynas â materion o bwys a nodwyd gan bobl ifanc (a all fod yn berthnasol i'r Nodau Datblygu Cynaliadwy).
Ar gyfer pwy?
Athrawon Cynradd ac Uwchradd (gan ganolbwyntio'n benodol ar Gyfnodau Allweddol 2 a 3) yn Lloegr.
Sut bydda i'n elwa?
- Dysgu am strategaethau ymarferol er mwyn creu gofod diogel ar gyfer dysgu am faterion byd-eang trwy ddeialog (gan gynnwys Athroniaeth ar gyfer Plant)
- Meithrin dealltwriaeth gysyniadol ar gyfer dysgu am werthoedd a chysyniadau megis hunaniaeth a pherthyn, grym, democratiaeth, tegwch a hawliau dynol
- Meithrin sgiliau a strategaethau ymarferol ar gyfer yr ystafell ddosbarth.
Ymrwymiad amser
Dau ddiwrnod.
Pris
Yn rhad ac am ddim.
Darparu
Darparwr: Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru yng Nghymru a Pearson yn Lloegr. Cefnogaeth wyneb yn wyneb ac o bell ar ôl y dyddiau hyfforddi.
Sut i archebu
Er mwyn canfod lle a phryd y cynhelir y cyrsiau, ac er mwyn archebu, cysylltwch â'r Ganolfan Materion Rhyngwladol yng Nghymru a Pearson yn Lloegr. Fel arall, gallwch gynnal cwrs yn eich ysgol eich hun ar ddyddiad sy'n addas i chi, drwy archebu'n uniongyrchol gyda'r British Council.
Gellir cyflwyno'r cwrs hwn yn Saesneg hefyd. I weld ein holl gyrsiau a gyflwynir yn Saesneg, ewch i'n hadran Datblygu eich sgiliau.