Mae'r cwrs hwn yn dod ag ugain mlynedd o brofiad rhyngwladol yn creu cysylltiadau trawsgwricwlaidd a datblygu cwricwlwm rhwng athrawon ac ysgolion yng Nghymru a'r De byd-eang i mewn i'ch ystafell ddosbarth.
Lefel
Lefel 2 canolradd a Lefel 3 dwys.
Thema
Lefel 2
Cyfoethogi addysgu a dysgu drwy themâu'r Nodau Datblygu Cynaliadwy.
Lefel 3
Bwyd a maeth; Dŵr, glanweithdra a gwastraff; Bioamrywiaeth; Amaethyddiaeth; Pysgodfeydd ac adnoddau morol; Ynni; Trafnidiaeth; Defnydd o'r tir; Gwrthdaro a mudo; yng nghyd-destun cynaliadwyedd.
Ar gyfer pwy?
Athrawon Cyfnodau Allweddol 2 a 3.
Sut bydda i'n elwa?
Lefel 2
Bydd y cwrs hwn yn rhoi rhagor o ddealltwriaeth, gwybodaeth a sgiliau i chi fel ymarferydd dysgu byd-eang drwy:
- Ddealltwriaeth well o gyd-destunau diwylliannol, gwleidyddol, amgylcheddol ac economaidd-gymdeithasol eich ardal chi ac ardal eich ysgol bartner
- Cwestiynu ac asesu safbwyntiau gwahanol mewn modd beirniadol
- Gwerthfawrogiad o'r rhyngberthnasau a'r rhyngddibyniaeth rhwng y Gogledd byd-eang a'r De byd-eang
- Mwy o hyder wrth ddysgu am faterion byd-eang sy'n sensitif
- Mwy cymwys wrth annog disgyblion i fod â gwell ymwybyddiaeth feirniadol ohonyn nhw'u hunain a'r byd yn ehangach
- Mwy o lythrennedd digidol drwy ymchwiliadau beirniadol ar-lein.
Lefel 3
Bydd y cwrs hwn yn eich galluogi i gymhwyso eich dysgu byd-eang i:
- Ddod yn weithgar fel addysgwr cyfoedion byd-eang ac fel mentor ysgogiadol i driadau athrawon sy'n gyfoedion
- Ymwneud ag ymchwil gweithredu, meddwl yn feirniadol a chyfoethogi cwricwlwm.
- Cymhwyso syniadau a dulliau newydd o gyflawni byd teg a chynaliadwy mewn modd beirniadol
- Trafod ac asesu ymatebion a chyfrifoldebau'r disgyblion o ran materion byd-eang
- Ehangu eich gorwelion y tu hwnt i amgylcheddau dysgu traddodiadol
- Datblygu rhagor o ymwybyddiaeth o wrthdaro a chymariaethau rhwng dimensiynau Cymru a rhai rhyngwladol.
Ymrwymiad amser
Lefel 2
Un gweithdy chwech awr.
Lefel 3
Dewis o chwe bloc dwyawr, neu ddau ddiwrnod chwech awr.
Pris
Yn rhad ac am ddim.
Darparu
Darparwr: Sazani
Sesiynau hyfforddiant mewn swydd gyda'r hwyr ac ar-lein
Sut i archebu
Er mwyn canfod lle a phryd y cynhelir y cyrsiau, ac er mwyn archebu, cysylltwch yn uniongyrchol â Sazani.
Fel arall, gallwch gynnal cwrs yn eich ysgol eich hun ar ddyddiad sy'n addas i chi, drwy archebu'n uniongyrchol gyda'r British Council.
Gellir cyflwyno'r cwrs hwn yn Saesneg hefyd. I weld ein holl gyrsiau a gyflwynir yn Saesneg, ewch i'n hadran Datblygu eich sgiliau.