Mae'r gweithdy hwn yn archwilio meddwl yn feirniadol a datrys problemau yng nghyd-destun dysgu byd-eang. Mae'n defnyddio strwythur cynllunio-gwneud-adolygu er mwyn galluogi athrawon i roi cynnig ar y strategaethau meddwl yn feirniadol y cyflwynir nhw iddynt yn eu hystafelloedd dosbarth, ac ystyried yr effaith.
Lefel
Lefel 3 dwys.
Thema
Meddwl yn feirniadol a datrys problemau yng nghyd-destun dysgu byd-eang a Daearyddiaeth.
Ar gyfer pwy?
Athrawon cynradd ac athrawon Daearyddiaeth mewn ysgolion uwchradd.
Sut bydda i'n elwa?
Bydd yr addysgeg hon, sy'n cyfoethogi eich gwybodaeth, yn eich helpu i alluogi disgyblion i gyfnerthu eu gwybodaeth am y byd, ennill gwybodaeth ddisgyblaethol trwy ddefnydd beirniadol o dystiolaeth a dadl, a bydd yn rhoi dulliau ymarferol i chi godi cyrhaeddiad.
Ymrwymiad amser
Dau ddiwrnod ac amser i weithredu.
Pris
Yn rhad ac am ddim.
Darparu
Darperir gan Ganolfan Materion Rhyngwladol Cymru yng Nghymru a'r Gymdeithas Ddaearyddol yn Lloegr, gyda dau weithdy wyneb yn wyneb.
Sut i archebu
Er mwyn canfod pryd a lle cynhelir y cyrsiau, ac er mwyn archebu, cysylltwch â'r Ganolfan Materion Rhyngwladol yng Nghymru, a'r Gymdeithas Ddaearyddol yn Lloegr.
Fel arall, gallwch gynnal cwrs yn eich ysgol eich hun ar ddyddiad sy'n addas i chi, drwy archebu'n uniongyrchol gyda'r British Council.
Gellir cyflwyno'r cwrs hwn yn Saesneg hefyd. I weld ein holl gyrsiau a gyflwynir yn Saesneg, ewch i'n hadran Datblygu eich sgiliau.