Lefel
Lefel 2 canolradd a Lefel 3 dwys.
Thema
Strategaethau ar gyfer datblygu deallusrwydd emosiynol dysgwyr drwy gyd-destunau byd-eang.
Ar gyfer pwy?
Athrawon cynradd ac uwchradd.
Sut bydda i'n elwa?
Lefel 2
Byddwch yn gwella eich dealltwriaeth o ddeallusrwydd emosiynol mewn cyd-destunau byd-eang, a sut gellir defnyddio hyn i ddatblygu strategaethau effeithiol yn yr ystafell ddosbarth. Byddwch yn ystyried strategaethau deallusrwydd emosiynol mewn cyd-destun byd-eang y gellir eu defnyddio i gyd-adeiladu cwricwlwm newydd ôl-Donaldson eich ysgol.
Lefel 3
Byddwch yn gwella eich dealltwriaeth o ddeallusrwydd emosiynol mewn cyd-destunau byd-eang, a sut gellir defnyddio hyn i ddatblygu strategaethau a gweithgareddau effeithiol yn yr ystafell ddosbarth. Byddwch yn cael gweithgareddau dosbarth deallusrwydd emosiynol y gellir eu defnyddio i gyd-adeiladu cwricwlwm newydd ôl-Donaldson eich ysgol.
Ymrwymiad amser
Lefel 2
Chwech awr.
Lefel 3
12 awr, ynghyd ag ymchwil gweithredu gyda mentora.
Pris
Yn rhad ac am ddim.
Darparu
Darparwr: Think, Learn, Challenge
Lefel 2
Gweithdy'n cynnwys:
- Diwrnod mewn safle canolog neu yn eich ysgol, neu
- Dau hanner diwrnod mewn safle canolog neu yn eich ysgol, neu
- Tair sesiwn gyda'r hwyr yn eich ysgol.
Lefel 3
Gweithdy deuddydd mewn safle canolog neu yn eich ysgol.
Sut i archebu
Er mwyn canfod ble a phryd y cynhelir y cyrsiau, ac er mwyn archebu, cysylltwch â Think, Learn, Challenge.
Fel arall, gallwch gynnal cwrs yn eich ysgol eich hun ar ddyddiad sy'n addas i chi, drwy archebu'n uniongyrchol gyda'r British Council.
Gellir cyflwyno'r cwrs hwn yn Saesneg hefyd. I weld ein holl gyrsiau a gyflwynir yn Saesneg, ewch i'n hadran Datblygu eich sgiliau.